Ein gweledigaeth ni yw i foroedd Cymru fod yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol, ac yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth.

Rydyn ni’n bartneriaid morol ac arfordirol o bob rhan o'r llywodraeth, diwydiant, cadwraeth, a chymunedau sy'n cefnogi camau gweithredu datblygu cynaliadwy ar gyfer ein harfordiroedd a'n moroedd. Yng Nghymru, mae gennym ni lawer o ddulliau gweithredu, pobl a phrosiectau presennol sy'n ceisio cefnogi ecosystemau morol a'r manteision rydyn ni’n eu cael ohonyn nhw. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy, ac mae angen i ni ei wneud yn gyflymach, gan ddefnyddio ein hadnoddau'n effeithiol. Mae Partneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru (CaSP Cymru) yn cydweithio, fel partneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau, i gyflawni ein tair thema drwy raglen waith, i ategu ein gweledigaeth a'n huchelgeisiau ar gyfer arfordiroedd a moroedd gwydn.

people

Pwysigrwydd moroedd Cymru

Mae ein harfordiroedd a'n moroedd yn ganolog i fywyd yng Nghymru, gan siapio ein lles, ein diwylliant, ein hiaith a'n treftadaeth bysgota.

Mae'r môr o amgylch Cymru’n dyblu maint y wlad.

Mae 69% o'r môr a'r arfordir wedi'u dynodi oherwydd y cynefinoedd amrywiol a'r bywyd morol sy'n ein hysbrydoli a'n cynnal ni.

Mae bron i 60% o boblogaeth Cymru’n byw o fewn 3 milltir i'r môr.

Mae moroedd Cymru’n darparu manteision hanfodol, gan gynnwys bwyd, ynni adnewyddadwy, storio carbon, twristiaeth ac iechyd a lles. Fodd bynnag, mae'r ecosystemau hyn yn wynebu pwysau cynyddol oherwydd newid hinsawdd, llygredd, a mwy o ddefnydd o adnoddau naturiol. Mae rheoli ein moroedd ni’n gyfrifol yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth warchod bioamrywiaeth a chymunedau arfordirol.

Mae CaSP Cymru wedi datblygu naratif a rennir sy'n esbonio'r hyn rydyn ni’n ei wneud.

UN Ocean Decade

Cymeradwyo Y Môr a Ni gan Ddegawd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig

Mae strategaeth Y Môr a Ni a digwyddiadau Ras Gyfnewid Baton y Brenin wedi derbyn cymeradwyaeth yn llwyddiannus fel gweithgareddau swyddogol Degawd Gwyddor Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (Degawd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig). Mae'r gymeradwyaeth hon yn cydnabod gweithgareddau sy'n gwneud cyfraniad ystyrlon at weledigaeth Degawd Cefnforoedd o gyflawni “y wyddoniaeth rydym ni ei hangen ar gyfer y cefnfor yr ydym ni ei eisiau”, ac yn eu halinio â rhwydwaith byd-eang o fentrau sy'n mynd i'r afael â heriau allweddol y cefnfor.

Darllen mwy
CaSP Webpage at launch (Cymraeg)

Lansio Gwefan PMaA

Mae Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru wedi lansio ei gwefan newydd i gefnogi gweithredu a rennir ar gyfer iechyd a gwydnwch y moroedd o amgylch Cymru. Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth am waith y Bartneriaeth, a'i themâu allweddol, a hefyd diweddariadau darparwyr am brosiectau cyfredol, partneriaethau cymunedol a chyfleoedd i gymryd rhan. 

Darllen mwy
Y Môr a Ni and partners at Porthdinllaen

Mae Y Môr a Ni yn cynrychioli moroedd Cymru ar gyfer Ras Gyfnewid Baton y Brenin

Ymunodd Y Môr a Ni a'i bartneriaid - Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Prosiect SIARC (dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain a Chyfoeth Naturiol Cymru), Clwb Tanddŵr Prydain (BSAC) ac Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau - gyda Thîm Cymru i ddathlu moroedd, bywyd gwyllt a chymunedau arfordirol fel rhan o Ras Gyfnewid Baton y Brenin.

Darllen mwy
MFC Logo

Lansio Cronfa MARINE Cymru

Agorwyd Cronfa MARINE Cymru yn swyddogol ar gyfer cyfraniadau gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yng Nghynhadledd Dyfodol yr Arfordir ar 29 Ionawr 2026. 

Darllen mwy
Young people on a beach listening to someone talk

Cronfa Her Cydlynwyr Arfordirol

Yn Hydref 2025, cynhaliodd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Gronfa Her, yn ceisio penodi Cydlynwyr Arfordirol i helpu i gryfhau capasiti arfordirol ledled Cymru.

Darllen mwy

Ein haelodau

2017 Bilingual PCF Logo
Angling Cymru
Bangor Univeristy logo_A1_FullColour
Cardiff Uni
Environment Platform Wales
JNCC
Marine Conservation Society
MPA Marine Aggregates
National Trust
NRW_logo_Colour_stack_Rounded
Pembrokeshire Coast National Park
Project Seagrass
RCAHMW
rspb_cymru_standard_stacked_rgb_aw-1
RYA
Swansea University
The Crown Estate
Welsh Government
Wildlife Trust Wales
Welsh Water
WWF
WCVA_Logo
KWT Black

Nod ein haelodaeth ni yw bod mor gynhwysol â phosibl, gan sicrhau cynrychiolaeth briodol i bawb sydd â diddordeb yn ardal forwrol Cymru.