Ymunodd Y Môr a Ni a'i bartneriaid - Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Prosiect SIARC (dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain a Chyfoeth Naturiol Cymru), Clwb Tanddŵr Prydain (BSAC) ac Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau - gyda Thîm Cymru i ddathlu moroedd, bywyd gwyllt a chymunedau arfordirol fel rhan o Ras Gyfnewid Baton y Brenin.

Drwy'r bartneriaeth hon, fe wnaeth Y Môr a Ni a'i gydweithwyr dynnu sylw at y berthynas hanfodol rhwng pobl a'r môr, dathlu cymunedau lleol yn cymryd camau i ddiogelu cynefinoedd morol, a chydnabod y cymunedau arfordirol sy'n dibynnu ar yr amgylcheddau hyn ar gyfer gwaith, hamdden a lles.

Dywedodd Reece Halstead, Cydlynydd Llythrennedd y Môr i Gymru yn Y Môr a Ni: “Mae gan bawb yng Nghymru berthynas â'r môr, p'un a ydym ni’n sylweddoli hynny ai peidio. Mae'n wych bod wedi gweithio gyda Thîm Cymru i arddangos y cysylltiadau rhwng chwaraeon, natur a'n cymunedau arfordirol drwy weithgareddau fel archwilio traethau, snorclo a deifio. Po fwyaf o gyfleoedd a gaiff pobl i brofi ein moroedd yn ddiogel, y mwyaf tebygol y byddant o'u gwerthfawrogi a helpu i'w diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae Ras Gyfnewid Baton y Brenin yn draddodiad byd-eang sy'n dod â phob un o 74 o genhedloedd a thiriogaethau y Gymanwlad ynghyd drwy gymuned, diwylliant a chwaraeon. Lansiwyd y ras gyfnewid gan Ei Fawrhydi Brenin Siarl III ym Mhalas Buckingham ym mis Mawrth 2025, daeth y ras gyfnewid i ben yn Seremoni Agoriadol Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2026 ar 23 Gorffennaf 2026.

Ar 22 Mehefin, ymunodd hyrwyddwyr cymunedol, pobl ifanc Rhaglen Morwellt: Achub Cefnfor y Môr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, partneriaid a Thîm Cymru â'r ymgyrch ar draeth Porthdinllaen ym Mhen Llŷn, yn barod i arddangos moroedd a thraethau anhygoel Cymru. Bu’r rhai a oedd yn bresennol yn casglu casys wyau siarcod a morgathod, yn snorclo uwchben dôl o forwellt, a hyd yn oed neidio ar gwch RIB, tra bod ‘deiliaid dethol baton y Brenin’ yn gorymdeithio ar hyd y traeth a thrwy'r dŵr gyda baton cymunedol Tîm Cymru.

Drannoeth, arweiniodd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru daith natur dywys o amgylch Porthaethwy, Ynys Môn, gyda Thîm Cymru, gwirfoddolwyr lleol o ganolfan gymunedol 'Canolfan' Porthaethwy ac aelodau'r cast o'r ddrama gyfresol deledu Gymraeg 'Rownd a Rownd'. Mentrodd y Môr a Ni o dan Bont Grog eiconig y Fenai, heibio pyllau glan môr yn llawn noethdagellogion, neu wlithod môr, a chlywed amrywiaeth o adar hirgoes yn gwawchio. Daeth y diwrnod i ben wrth i bartneriaid Clymblaid Llythrennedd y Môr i Gymru, RNLI, arwain gweithgareddau SwimSafe ar gyfer grwpiau ysgolion lleol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio ein moroedd yn ddiogel.