Amdanom ni

Am Bartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru

Mae Partneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru (CaSP Cymru) yn dod â busnesau, sefydliadau, a chynrychiolwyr cymunedol ac academaidd sy'n gofalu am ddyfodol ein moroedd ni at ei gilydd. Mae'r Bartneriaeth yn gweithio i gefnogi moroedd glân, iach a ffyniannus i Gymru drwy annog dealltwriaeth gyffredin, cydweithio a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Ein nod ni yw cryfhau gwydnwch yr amgylchedd morol yng Nghymru a chefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli ein moroedd yn gynaliadwy.

Our members carrying out research

Sut Rydyn Ni’n Gweithio

Partneriaeth Graidd CaSP Cymru yw grŵp rhanddeiliaid morol cyffredinol Llywodraeth Cymru, sy'n trefnu cyfarfodydd dair gwaith y flwyddyn.

Penodwyd y Cadeirydd presennol, Dr David Tudor, gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Dr David Tudor
Dr David Tudor

Mae'r Bartneriaeth Graidd wedi nodi, ac yn gweithio i gyflawni, tri 'galluogydd' allweddol, ein blaenoriaethau ni i gefnogi cyflawni'r Weledigaeth:

  • Cynyddu dealltwriaeth o’r môr ar draws pob rhan o gymdeithas - bydd codi ymwybyddiaeth o arwyddocâd ein harfordiroedd a'n moroedd yn annog gweithredu pellach ar draws meysydd polisi, a fframweithiau gweinyddol eraill fel Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Gwella buddsoddiad glas a datblygu ffynonellau cyllid cyhoeddus a phreifat tymor hwy, sy'n hanfodol i gefnogi cyflawni amcanion allweddol.
  • Meithrin capasiti arfordirol, yn enwedig ar lefel leol, i alluogi ymgysylltu cymunedol ystyrlon i nodi cyfleoedd a heriau lleol a chyflawni camau gweithredu.
Image
Saundersfoot

Ein Hymrwymiad i Gydweithredu

Mae aelodau CaSP Cymru yn rhannu ymrwymiad i gydweithio i gyflawni uchelgeisiau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ac i gefnogi dyfodol gwydn i arfordiroedd a moroedd Cymru. Mae cydweithredu, dysgu a rennir, a chyfathrebu agored wrth galon ein gwaith.

Mae'r Bartneriaeth Graidd wedi cyhoeddi Naratif a Rennir i gyd-fynd â’u gwaith ac i roi cyfeiriad iddo. 

Mae'r Bartneriaeth Graidd yn cynnwys y sefydliadau hynny sydd â rôl genedlaethol, cylch gwaith Cymru gyfan neu arbenigedd cydnabyddedig yn y sector morol ac arfordirol.

Mae posib dod o hyd i'r Cylch Gorchwyl a manylion cyswllt ar gyfer y Bartneriaeth Graidd yma.

Coastline

Gweithgorau

Cefnogir cyflawni'r tair blaenoriaeth gan gyfranwyr ehangach a Gweithgorau.

Mae Cynghrair Llythrennedd Cefnforoedd Cymru yn dod â mwy na 60 o sefydliadau at ei gilydd i helpu i gyflawni Strategaeth Llythrennedd Cefnforoedd Y Môr a Ni.

Datblygodd y Gweithgor Buddsoddiad Glas Gronfa FOROL Cymru ac mae'n rhannu gwybodaeth a manylion i gynyddu buddsoddiad glas yng Nghymru.

Mae'r Gweithgor Meithrin Capasiti Arfordirol yn cefnogi twf capasiti a sgiliau ar draws cymunedau arfordirol ac yn gwella'r cysylltiad rhwng blaenoriaethau cenedlaethol a chyflawniad lleol.

Mae'r Grŵp Arbenigol Bioamrywiaeth Forol yn cynghori ar fioamrywiaeth forol, monitro ac anghenion tystiolaeth.

Mae'r grwpiau hyn ar agor i amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys mentrau lleol, grwpiau cymunedol, arbenigwyr academaidd, a sefydliadau’r sector sydd ddim yn gweithredu ar raddfa genedlaethol efallai.

Dysgwch fwy am ein Haelodaeth a sut i gymryd rhan.