Cynyddu Buddsoddiad Glas

A coastal path

Ein Hamcanion

Nod y thema hon yw sicrhau cyllid arloesol a hirdymor i ddarparu ecosystemau morol gwydn. Y canlyniadau / mesurau llwyddiant a geisir o dan y thema hon yw:

  • Nodi ffynonellau cyllid, presennol a newydd, i alluogi adferiad glas.
  • Darparu eglurder a phrosiectau diriaethol y gellir eu hariannu, sy'n dangos/cyflawni adferiad glas, i ddarpar gyllidwyr neu ffrydiau cyllido.

Gwaith y Gweithgor Buddsoddiad Glas

Pwrpas y Gweithgor yw nodi ffynonellau presennol a newydd o gyllid a datblygu ffrydiau cyllid tymor hir pellach ar gyfer gwydnwch morol ac arfordirol.

Ei amcanion yw:

  • Nodi’r ffrydiau cyllid sydd ar gael i gefnogi gwydnwch morol.
  • Nodi cyflenwad o brosiectau y mae posib eu hariannu.
  • Cefnogi datblygiad monitro a safonau a dosbarthu gwybodaeth i feithrin capasiti yng Nghymru o amgylch buddsoddiad glas cynaliadwy.
  • Sefydlu cronfa wella forol hirdymor Cymru.

 

Y prif faes gwaith i'r Grŵp hwn fu datblygu Cronfa MARINE Cymru.

A marina

Prosiectau

Mae Cronfa FOROL Cymru yn gronfa bwrpasol sy’n cael ei rheoli gan WCVA ac mae wedi cael ei datblygu drwy Bartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru. Mae'r gronfa'n dod â chyfraniadau gwirfoddol at ei gilydd i gefnogi prosiectau sy'n galluogi, yn cynnal ac yn gwella gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol Cymru.