Aelodaeth
Nod aelodaeth CaSP Cymru yw bod mor gynhwysol â phosibl gan sicrhau cynrychiolaeth briodol gan bawb sydd â diddordeb yn ardal forol Cymru (cymunedau a phartneriaethau arfordirol, yr amgylchedd, llywodraeth leol, hamdden a gweithgarwch hamddena, a sectorau busnes e.e. ynni a physgota).
1. Aelodau'r Bartneriaeth Graidd
Mae'r Bartneriaeth Graidd yn cynnwys y sefydliadau hynny sydd â rôl genedlaethol, cylch gwaith Cymru gyfan neu arbenigedd cydnabyddedig yn y sector morol ac arfordirol.
Mae'r dull yma o weithredu’n helpu i gynnal aelodaeth gytbwys a chynrychioliadol y mae posib ei rheoli.
Mae'r sectorau sy’n cael eu cynrychioli’n cynnwys:
- Dyframaeth
- Agregau a diwydiannau gwely'r môr
- Partneriaethau cymunedol arfordirol
- Pysgota a threftadaeth forol
- Cyrff cadwraeth natur a bioamrywiaeth
- Porthladdoedd a llongau
- Hamdden a gweithgarwch hamddena
- Ynni morol ac ynni adnewyddadwy
- Twristiaeth
- Cyrff cyhoeddus, prifysgolion, ac adrannau Llywodraeth Cymru
Mae Cylch Gorchwyl a manylion cyswllt y Bartneriaeth Graidd i'w gweld yma.
2. Cyfranwyr Ehangach: Grwpiau Gwaith
Ni fydd pob sefydliad yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y Bartneriaeth Graidd. Fodd bynnag, mae llawer o grwpiau a sefydliadau eraill yn cymryd rhan drwy ein Gweithgorau:
Mae Cynghrair Llythrennedd Cefnforoedd Cymru yn dod â mwy na thri deg o sefydliadau at ei gilydd i helpu i gyflawni Strategaeth Llythrennedd Cefnforoedd Y Môr a Ni.
Mae’r Gweithgor Buddsoddiad Glas yn datblygu’r strategaeth a’r cynllun gweithredu ar gyfer cyllid glas yng Nghymru.
Mae'r Gweithgor Meithrin Capasiti Arfordirol yn cefnogi capasiti a datblygu sgiliau ar draws cymunedau arfordirol.
Mae'r Grŵp Arbenigol Bioamrywiaeth Forol yn cynghori ar fioamrywiaeth, monitro ac anghenion tystiolaeth.
Mae'r grwpiau hyn ar agor i ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys mentrau lleol, grwpiau cymunedol, arbenigwyr academaidd, a sefydliadau’r sector sydd ddim yn gweithredu ar raddfa genedlaethol efallai.
Sut Gallwch Chi Gymryd Rhan
Mae sawl ffordd i gymryd rhan yn CaSP Cymru:
Ymuno â'r Bartneriaeth Graidd
Gall sefydliadau sydd â dylanwad dros Gymru neu arbenigedd cenedlaethol gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb.
Cymryd Rhan mewn Gweithgorau
Mae croeso i sefydliadau ehangach ymuno â'n gweithgorau.
Ymuno â'n Rhestr Ddosbarthu
Gall unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd â diddordeb yn arfordiroedd a moroedd Cymru ymuno â'n rhestr bostio ehangach i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf, cylchlythyrau, gwahoddiadau, a chyfleoedd i gymryd rhan mewn arolygon ac ymgynghoriadau.
Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y Dudalen Cysylltu.