Cynyddu Capasiti Arfordirol
Beth yw Meithrin Capasiti Arfordirol?
Mae capasiti arfordirol yn cael ei ddiffinio fel lle mae 'cydweithredu a chydgynhyrchu yn cael eu galluogi i annog gweithredu cydlynol, yn lleol o fewn ein cymunedau, yn genedlaethol, ac ar draws ffiniau, i ymateb i anghenion ac amodau sy'n newid wrth i'r pwysau ar ein harfordiroedd a'n moroedd gynyddu.'
Y nod yw sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio ger y môr yn gallu deall, siapio a dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hamgylchedd, eu bywoliaeth a'u lles.
Mae'r gwaith yma’n hanfodol oherwydd bod ymchwil wedi nodi sawl rhwystr mewn cymunedau arfordirol, fel cyfathrebu gwael a theimlad o neb yn gwrando arnyn nhw; diffyg gwaddol neu weithgarwch dilynol ar ôl prosiectau; a phobl mewn cymunedau arfordirol ddim yn teimlo bod ganddyn nhw’r wybodaeth na'r gallu i chwarae rhan mewn materion morol ac arfordirol.
Beth mae'r Gweithgor Meithrin Capasiti Arfordirol yn ei Wneud
Nod y thema Meithrin Capasiti Arfordirol yw datblygu cymunedau arfordirol cryf, gwybodus a chysylltiedig sy’n gallu cefnogi ecosystemau morol gwydn yn weithredol. Mae ei amcanion yn cynnwys:
- galluogi pobl a sefydliadau i siapio’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a lleol.
- gwella mynediad at ddata a gwybodaeth ddibynadwy fel bod cymunedau’n gallu cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.
- meithrin rhwydweithiau cydweithredol effeithiol ac wedi'u hariannu'n dda.
- datblygu gweithlu arfordirol medrus ac amrywiol gyda chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant clir.
- cryfhau capasiti lleol i gyflawni camau gweithredu sy'n cefnogi adferiad byd natur a gwydnwch hinsawdd.
Mae’r gwaith blaenorol i gynyddu capasiti arfordirol wedi bod drwy ariannu amrywiaeth o brosiectau a swyddi yn bennaf, i feithrin capasiti ar gyfer blaenoriaethau morol fel dealltwriaeth o’r môr, ymgysylltu ag ynni morol, fforymau arfordirol sy'n gweithio ar brosiectau ansawdd dŵr ac adfer, gwyddoniaeth y dinesydd ac allgymorth ysgolion a cholegau.
Yn fwyaf diweddar, mae cyllid wedi cael ei ddarparu i gyflogi tri Chydlynydd Arfordirol yn Ne, Gorllewin a Gogledd Cymru, y gallai eu gwaith gynnwys darparu pwynt cyswllt rhanbarthol neu leol, cysylltu meysydd polisi i fynd i'r afael â materion morol, hwyluso ymgysylltu ystyriol a chefnogi casglu / rhannu tystiolaeth a hyfforddiant.
Cydlynwyr Arfordirol
Drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae tair swydd beilot ar gyfer Cydlynydd Arfordirol wedi cael eu sefydlu dros Gymru. Byddant yn gweithio i gryfhau'r broses leol o gyflawni polisi morol Cymru, i feithrin capasiti cynhwysol o fewn cymunedau arfordirol, i ddatblygu gweithlu medrus ac amrywiol a rhwydweithiau cydweithredol effeithiol. Byddant yn gweithio tuag at y nod o arfordiroedd a moroedd Cymru sy'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.
Bydd y Cydlynwyr Arfordirol yn cael eu cynnal gan bartneriaethau a sefydliadau lleol sefydledig:
- CIC Fforwm Arfordirol Sir Benfro
- Partneriaeth Aber Hafren
- Partneriaeth ACA Pen Llŷn a'r Sarnau
Eu prif swyddogaeth yw gweithredu fel cyswllt hanfodol, gan gysylltu cymunedau a busnesau lleol â blaenoriaethau morol cenedlaethol.
Gan weithio gyda phartneriaid, bydd pob Cydlynydd yn canolbwyntio ar ymgysylltu seiliedig ar le er mwyn cyflawni’r canlynol:
- Cryfhau llythrennedd cefnforol i wella dealltwriaeth o'r amgylchedd morol gan ddefnyddio fframwaith Y Môr a Ni.
- Grymuso lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwneud penderfyniadau arfordirol, fel cymunedau ethnig lleiafrifol, pobl ifanc, a thrigolion mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd-gymdeithasol.
- Cefnogi integreiddio blaenoriaethau morol ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a chynllunio morol i lywodraethu lleol, addasu i'r hinsawdd a chynllunio.
Cysylltwch â Ni
Mae manylion cyswllt ar gyfer y cydlynwyr arfordirol ar gael ar y Dudalen Cysylltu.