Agorwyd Cronfa MARINE Cymru yn swyddogol ar gyfer cyfraniadau gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yng Nghynhadledd Dyfodol yr Arfordir ar 29 Ionawr 2026. 

Bydd y Gronfa, a reolir gan CGGC, yn darparu buddsoddiad hirdymor ar gyfer adfer a gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol yng Nghymru. Bydd yn cefnogi prosiectau sy'n gwella bioamrywiaeth, yn ymateb i bwysau yn yr hinsawdd ac yn meithrin sgiliau a gwybodaeth o fewn cymunedau.

Mae'n dangos cryfder ac arbenigedd ein dull partneriaeth, sy'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y Gymdeithas Cadwraeth Forol a chynrychiolwyr o'r sectorau cadwraeth, partneriaethau arfordirol, pysgodfeydd, porthladdoedd a diwydiant. 

Mae Ystâd y Goron hefyd wedi cyfrannu cyllid cychwynnol o £500,000 fel rhan o'i hymrwymiad i adfer natur, a'r gobaith yw y bydd hyn yn annog rhagor o gyfraniadau, gan alluogi'r Gronfa i gyflawni prosiectau sy'n gwella gwydnwch ein hecosystemau morol ac arfordirol. Nod y Gronfa yw lansio ei rownd grant cyntaf yn ddiweddarach yn 2026.

Image
MARINE Fund Cymru