Mae strategaeth Y Môr a Ni a digwyddiadau Ras Gyfnewid Baton y Brenin wedi derbyn cymeradwyaeth yn llwyddiannus fel gweithgareddau swyddogol Degawd Gwyddor Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (Degawd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig). Mae'r gymeradwyaeth hon yn cydnabod gweithgareddau sy'n gwneud cyfraniad ystyrlon at weledigaeth Degawd Cefnforoedd o gyflawni “y wyddoniaeth rydym ni ei hangen ar gyfer y cefnfor yr ydym ni ei eisiau”, ac yn eu halinio â rhwydwaith byd-eang o fentrau sy'n mynd i'r afael â heriau allweddol y cefnfor.
Drwy sicrhau cymeradwyaeth Degawd Cefnforoedd, mae Y Môr a Ni bellach yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad at ymdrechion rhyngwladol i gynyddu llythrennedd cefnforol a chysylltu pobl yn agosach â'r amgylchedd morol. Mae hyn yn darparu llwyfan pwysig ar gyfer cydweithio, gwelededd a dylanwad yn y dyfodol o fewn cymuned ehangach Degawd Cefnforoedd. Mae cymeradwyaeth digwyddiadau Ras Gyfnewid Baton y Brenin yn cydnabod cyfraniad y digwyddiad at amcanion Degawd Cefnforoedd a'i rôl wrth godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd ynghylch materion cefnfor.
Mae sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y ddau weithgaredd yn dangos ansawdd a pherthnasedd y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru ac yn cadarnhau bod y mentrau hyn yn cyfrannu at flaenoriaethau cefnfor sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae'r ardystiadau'n darparu cyfleoedd gwerthfawr i gryfhau partneriaethau, cynyddu gwelededd, cefnogi cyfleoedd ariannu yn y dyfodol ac ymgysylltu â rhwydwaith ehangach byd-eang Degawd Cefnforoedd. Maen nhw hefyd yn helpu i sefydlu Cymru fel cyfrannwr gweithredol at ymdrechion rhyngwladol i wella gwybodaeth am y cefnfor, cryfhau llythrennedd cefnforol ac ysbrydoli pobl i weithredu dros ddyfodol morol cynaliadwy.