Yn Hydref 2025, cynhaliodd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Gronfa Her, yn ceisio penodi Cydlynwyr Arfordirol i helpu i gryfhau capasiti arfordirol ledled Cymru.
Bydd y rolau newydd hyn yn helpu i wella ymgysylltiad, annog cydweithio a chefnogi gwaith sy'n cyfrannu at ecosystemau arfordirol a morol gwydn. Bydd y penodiadau hyn yn nodi cam pwysig o ran gwella cymorth yn seiliedig ar leoedd ac ehangu cyfranogiad mewn penderfyniadau sy'n siapio dyfodol arfordir Cymru.
Bydd y Cydlynwyr newydd wedi'u lleoli ym Mhartneriaeth Aber Hafren, Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Chyngor Gwynedd — bydd mwy o wybodaeth yn dilyn cyn bo hir!