Mae menter newydd dan arweiniad Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru) wedi lansio 'Y Môr a Ni' - fframwaith ar gyfer Llythrennedd y Môr i Gymru, sef y cyntaf o'i fath yn y DU. Nod y strategaeth yw datblygu perthynas pobl â'n harfordiroedd a'n moroedd.

Po fwyaf cysylltiedig mae pobl yn teimlo â'r môr, y mwyaf ymwybodol y byddant o effaith eu gweithredoedd unigol a chymdeithasol ar yr amgylchedd morol ac arfordirol. Gall hyn arwain at newidiadau ymddygiadol sy'n diogelu ac yn gwarchod y mannau naturiol pwysig hyn, yn ogystal â'r holl fuddion maen nhw’n eu darparu. 

Mae mannau glas, fel y môr a'r arfordir, yn cynnig lleoedd sy'n gallu gwella eich lles corfforol a meddyliol, yn ogystal â darparu amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, ac mae rhai ohonynt i'w cael yn y DU yn unig. 

Mae'r amgylcheddau morol hyn yn cynnal diwydiannau lleol, gan gyfrannu at y sectorau bwyd ac ynni a darparu cyflogaeth, yn enwedig mewn ardaloedd poblogaidd ymhlith twristiaid.

Mae ein moroedd, a'r holl fanteision maen nhw’n eu darparu, yn wynebu bygythiadau ar sawl ffrynt, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd a llygredd. Nod Y Môr a Ni yw galluogi unigolion, cymunedau a busnesau i newid eu perthynas â'r môr, gan arwain at gamau gweithredu, mawr a bach, a all gefnogi llesiant lleol yn ogystal â diogelu'r amgylcheddau arbennig hyn. 

Dywedodd Kirsty Lindenbaum, uwch gynghorydd arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): “Mae ein harfordiroedd a'n moroedd wedi llywio bywydau pobl Cymru ers miloedd o flynyddoedd ac maen nhw’n rhan bwysig o'n dyfodol.” Rydym ni’n falch o fod yn gweithio fel rhan o'r bartneriaeth amrywiol hon i gryfhau'r cysylltiadau sydd gan bobl yng Nghymru â'r cefnfor. Wrth weithio gyda'n gilydd, rydym ni am alluogi pawb yng Nghymru i fwynhau a gofalu am ein moroedd.”

Pwysleisiodd Emma McKinley, Uwch Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd bwysigrwydd Y Môr a Ni yng nghyd-destun gwaith arall sy'n digwydd ledled y byd, “Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o ymdrech mor gydweithredol i ddatblygu Y Môr a Ni ac i gryfhau ymdrechion i ddatblygu llythrennedd y môr ymhellach ledled Cymru. Wrth i ni ddod i ganol Degawd Cefnfor y Cenhedloedd Unedig, mae pwyslais cynyddol ar yr angen i ddeall y berthynas rhwng pobl a'r cefnfor, a rôl y cysylltiadau hyn wrth ddiogelu ein cefnfor, ein harfordiroedd a'n moroedd nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Dywedodd Cydlynydd Llythrennedd y Môr i Gymru, Reece Halstead, yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, “Mae wedi bod yn fraint gweld undod ac ymgyrch cyffredin partneriaid o bob cwr o Gymru wrth ddatblygu Strategaeth Llythrennedd y Môr gyntaf y DU. Mae Y Môr a Ni yn gam mawr ymlaen yn y genhadaeth i ddiogelu ein moroedd yng Nghymru a'n bywyd gwyllt toreithiog ac mae'n gobeithio meithrin y cysylltiad sydd gan bob dinesydd o Gymru gyda'n hamgylchedd morol hardd.”