I gyd-fynd â lansiad Y Môr a Ni, cyflwynodd Clymblaid Llythrennedd y Môr i Gymru (WOLC) ddau ddigwyddiad peilot Gŵyl y Môr yn Aberdaugleddau, Sir Benfro a'r Fflint, Sir y Fflint. Y gwyliau oedd y canlyniadau diriaethol cyntaf i ddeillio o ymgyrch y Môr a Ni, wedi'u cyd-ddylunio gyda grwpiau cymunedol lleol ac ymarferwyr morol.
Ym mis Mawrth 2025, lansiodd digwyddiadau peilot Gwyliau'r Môr ar Lannau Aberdaugleddau ac o fewn muriau Castell y Fflint. Fe wnaeth dros 1,700 o bobl wnaeth fynychu’r ddwy ŵyl fwynhau’r stondinau, gweithdai, gweithgareddau a sgyrsiau a gyflwynwyd gan dros 40 o bartneriaid yr ŵyl, gan gynnwys Fforwm Arfordir Sir Benfro, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint a'r RNLI. Drwy weithdai celf, cerddorion sianti môr a sesiynau rhith-realiti (VR), fe wnaeth y gwyliau alluogi cynulleidfaoedd ‘anodd eu cyrraedd’ i ddeall eu cysylltiad â'r môr a'r arfordir mewn ffyrdd newydd a hygyrch.
Bu Milford Youth Matters, grŵp cymunedol ar lawr gwlad sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc, yn gwirfoddoli yn ystod cyfnodau dylunio, cyflwyno a gwerthuso Gŵyl y Môr Aberdaugleddau. Rhoddwyd cyfle i Milford Youth Matters gwrdd â Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, lle bu iddynt gyflwyno eu gwaith ac arwain rhan o'i daith o amgylch yr ŵyl. Roedd Milford Youth Matters wedi'u hintegreiddio'n wirioneddol ym mhob elfen o Ŵyl y Môr, a chawsant adborth cadarnhaol gan y cyhoedd a deiliaid stondinau drwy gydol penwythnos y digwyddiad.
Mae digwyddiadau Lleol Gŵyl y Môr yn y broses o gael eu dylunio gan bartneriaid WOLC ar gyfer 2026 a'r nod yw y bydd y digwyddiadau yn cynyddu ledled Cymru o 2027.